Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y_Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Gorffennaf 2020
Amser y
cyfarfod: 10.00
------
Cynhelir
y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd
wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog
34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau
electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog
34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y
Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd
cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
4 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd)
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
5 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
(60 munud)
6 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Janet Finch-Saunders(Aberconwy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofion Covid-19 wythnosol ar gyfer staff cartrefi gofal?
Gofyn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at y polisi cyfryngau a chymorth i'r diwydiant cyfryngau yn dilyn y gyfres ddiweddar o ddiswyddiadau?
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân - TYNNWYD YN ÔL
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 - TYNNWYD YN ÔL
NDM7349 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 - TYNNWYD YN ÔL
NDM7350 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
9 Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
NDM7347 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion
y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y
Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a
osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Mehefin 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
NDM7348 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ysgolion
a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y
Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
11 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020
(15 munud)
NDM7346 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau,
Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn
cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
12 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
(15 munud)
NDM7357 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).
Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3
Dogfen
Ategol
Datganiad
y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A
13 Dadl: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru
(60 munud)
NDM7355 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.
2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i 20 milltir yr awr.
3. Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.
4. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.
Anfonwyd adroddiad y Tasglu drwy e-bost at yr Aelodau ar 8 Gorffennaf 2020.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.
14 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10: Swyddogaethau Pwyllgor yn Ymwneud â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru
(5 munud)
NDM7353 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.
15 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Y Comisiwn Etholiadol a Phwyllgor y Llywydd
(5 munud)
NDM7352 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Rheol Sefydlog 18B – Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i gyflwyno Rheol Sefydlog 18B newydd, a diwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes.
16 Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22, yn sgil Covid 19
(60 munud)
NDM7351 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn trafod y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Cyllideb Ddraft Llywodraeth Cymru 2021-22.
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Nodyn Cryno Ymgysylltu Digidol, Mehefin 2020
17 Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Effaith Covid-19 ar Blant a Phobl Ifanc
(60 munud)
NDM7354 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Interim y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.
18 Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol
(60 munud)
NDM7356 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi croesawu’r gallu i Gymru weithredu’n annibynnol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
2. Yn cydnabod llwyddiant gwledydd annibynnol o faint tebyg i Gymru wrth ddelio gyda’r feirws.
3. Yn credu y byddai annibynniaeth yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwydnwch i Gymru wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.
4. Yn nodi’r gefnogaeth gynyddol i Alban annibynnol ac Iwerddon unedig.
5. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol.
6. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatau
i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal
refferendwm gyfrwymol ar annibynniaeth.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi datganoli i Gymru.
2. Yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
3. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi'i rhoi i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys:
a) £2.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi ymyriadau mewn materion datganoledig;
b) cymorth ar gyfer mwy na 316,500 o swyddi drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;
c) cymorth i fwy na 102,000 o bobl drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws;
d) cyllid brys ar gyfer y diwydiant dur;
e) Bonws Cadw Swyddi i annog cyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr sydd ar ffyrlo;
f) Cynllun Kickstart ar gyfer ceiswyr gwaith ifanc;
g) gostyngiad mewn TAW ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch;
h) Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynorthwyo caffis, bwytai a thafarndai; ac
i) cyllid i ddatgarboneiddio adeiladau sector cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gydweithredu â Llywodraeth Ei Mawrhydi i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu:
a) bod datganoli, drwy unrhyw fesur rhesymol, wedi methu; a
b) bod y gefnogaeth dros ddileu'r Senedd yn fwy na'r gefnogaeth dros annibyniaeth wleidyddol Cymru o'r DU.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y gwahanol bolisïau o ran cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan wahanol lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi arwain at ddryswch.
2. Yn cydnabod mai yr unig gwir wydnwch economaidd y mae Cymru yn ei fwynhau yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.
3. Yn nodi refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, a arweiniodd at yr Alban yn pleidleisio dros aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
4. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a yw Cymru'n parhau i fod â llywodraeth ddatganoledig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn
ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ynghylch a ydym yn
cadw neu'n diddymu llywodraeth a senedd ddatganoledig Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;
2. Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a
3. Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.
Gwelliant 5 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid cael gwared ar y Senedd.
Gwelliant 6 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ar ei datsefydlu.
Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru gael ei chyfansoddiad a'i deddf hawliau ei hun.
Gwelliant 8 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid arfer sofraniaeth Cymru ar lefel gymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys defnyddio refferenda rhwymol drwy hawl y cyhoedd i gynnig.
19 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 5 Awst 2020. Adalw’r Senedd o dan Rheol Sefydlog 34.9 yw’r cyfarfod hwn.